Teitl y ddeiseb: Dylai Llywodraeth Cymru gynnal refferendwm cyn ehangu maint y Senedd Geiriad y ddeiseb: Mae Llafur Cymru, mewn cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, yn cynnig cynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 60 i 96. Ni nododd y naill blaid na'r llall y nifer hwn yn eu maniffestos mewn etholiadau diweddar. Dylid gofyn i bobl Cymru drwy refferendwm a ydynt am ehangu maint y Senedd, gan y bydd y cynnig hwn yn arwain at ddiffyg cyfranoldeb o ran cynrychiolaeth. Mae gwasanaethau cyhoeddus a'r GIG yng Nghymru yn dioddef yn enbyd ac ni ddylai ehangu sy'n costio miliynau i drethdalwyr Cymru fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
|
Ers 2004, mae cyfres o adroddiadau wedi argymell y dylai maint presennol y Senedd, sef 60 Aelod, gael ei gynyddu. Roddodd Deddf Cymru 2017 bwerau i'r Senedd mewn perthynas â'i maint a'i threfniadau etholiadol heb fod gofyn cynnal refferendwm. Bydd angen i uwchfwyafrif (40 o’r 60 Aelod o’r Senedd) bleidleisio dros unrhyw Fil a gyflwynir ar ddiwygio’r Senedd iddo basio. Mae adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006yn rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru gynnal pleidlais i gael barn pobl Cymru ynghylch swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Nid yw hwn yn fecanwaith ar gyfer cynnal pleidlais uniongyrchol na refferendwm uniongyrchol ar gynnig penodol.
Ym mis Chwefror 2017, penododd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad Banel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i ystyried a oes angen mwy o aelodau ar y Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau craffu a deddfwriaethol.
Argymhellodd y Panel Arbenigol y dylai maint y Cynulliad gynyddu i “80 Aelod fan lleiaf, ac yn ddelfrydol i 90 Aelod”. Canfu fod deddfwrfa â 60 Aelod yn fach o’i chymharu â’r rhan fwyaf o’r deddfwrfeydd tebyg, a bod diffyg capasiti yn cyfyngu’n ddifrifol ar amser yr Aelodau.
Yn sgil canfyddiadau'r Panel Arbenigol, cafodd Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ei sefydlu i ystyried opsiynau ar gyfer diwygio’r Senedd. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei gasgliadau ym mis Medi 2020. Argymhellodd y dylai maint y Senedd gynyddu i fod â rhwng 80 a 90 Aelod, a hynny o’r etholiad yn 2026 ymlaen. Roedd hefyd yn argymell i system etholiadol y bleidlais sengl drosglwyddadwy gael ei defnyddio. Ni chynigiodd y Blaid Geidwadol Aelod ar gyfer y Pwyllgor. Hefyd, cyn i’r Pwyllgor allu gorffen ei waith, amharwyd arno gan ymddiswyddiad David Rowlands, Aelod Plaid Brexit, a chan bandemig Covid-19.
Sefydlwyd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Hydref 2021 a gofynnwyd iddo wneud argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi i Fil Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd.
Argymhellodd y Pwyllgor Diben Arbennig y dylai’r Senedd gynyddu o ran maint i 96 Aelod. Argymhellodd gyflwyno system cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig, a chreu 16 etholaeth newydd drwy baru etholaethau presennol Senedd y DU. Dywedodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r Senedd newydd gynnwys cwotâu rhywedd, mesurau gwell ar gyfer casglu data am amrywiaeth ymgeiswyr a gweithdrefnau ar gyfer rhannu swyddi.
Ymddiswyddodd cynrychiolydd y Ceidwadwyr o’r Pwyllgor cyn i adroddiad y Pwyllgor gael ei gytuno. Cafodd rhai o’r prif argymhellion eu derbyn gan fwyafrif ar y Pwyllgor, ond nid gan bob Aelod.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ddatganiad ar y cyd ar 10 Mai 2022, yn dadlau y dylai’r Senedd gael 96 Aelod ac y dylid defnyddio system gyfrannol rhestr gaeedig i’w hethol.
Yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb hon, dywedodd y Prif Weinidog:
Rhoddodd Deddf Cymru 2017 bŵer i’r Senedd newid ei maint, heb refferendwm. Mae llawer o gynseiliau ar gyfer newid nifer yr Aelodau etholedig heb refferenda, gan gynnwys y newidiadau yn sgil yr adolygiad o ffiniau ar gyfer Senedd y DU, a fydd yn gostwng nifer yr Aelodau Seneddol y bydd Cymru yn eu hethol i San Steffan o 40 i 32.
Roedd ymrwymiad i ddiwygio’r Senedd yn rhan benodol o faniffestos Llafur a Phlaid Cymru yn yr etholiad y llynedd. Ar y sail hon, ac o ystyried y cynseiliau niferus ar gyfer cyflwyno newidiadau etholiadol heb refferenda, nid oes cynlluniau i gynnal refferendwm ynghylch unrhyw elfen ar ddiwygio’r Senedd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Diwygio’r Senedd maes o law, i’r Senedd ei drafod a chraffu arno.
Trafododd y Senedd adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar 8 Mehefin 2022. Dywedodd Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor:
“ni cheir un pecyn perffaith digymysg o ddiwygio etholiadol a fydd yn bodloni pawb. [...] amcan [...] ein pwyllgor oedd dod o hyd i argymhellion y mae'n rhaid iddynt hefyd ennill cefnogaeth ar draws y Senedd gyfan [...] nid ceisio sicrhau rhyw weledigaeth o berffeithrwydd, a thrwy hynny aberthu ymarferoldeb a gallu i'w gyflawni erbyn 2026.”
Dywedodd Mr Irranca-Davies fod angen mwy o gapasiti ar y Senedd i gyflawni’r cyfrifoldebau ychwanegol a ysgwyddwyd ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu ym 1999. Mae’r rhain yn cynnwys pwerau deddfu sylfaenol, pwerau i fenthyca ac amrywio trethi, gwaith ychwanegol a grëwyd wrth i bwerau ddychwelyd o’r UE yn sgil Brexit, mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o gyfrifoldebau’r Senedd oherwydd pandemig Covid-19, a’r “potensial hwnnw, nad yw'n afrealistig, o gyfrifoldebau ychwanegol yn y dyfodol”.
Gwnaeth Darren Millar, llefarydd yr Wrthblaid ar y cyfansoddiad, feirniadu’r cynigion, gan ddadlau nad dyma’r amser iawn i gynyddu maint y Senedd. Dadleuodd Rhys ab Owen, llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad ar y pryd, fod angen Senedd fwy “i graffu ar Lywodraeth Cymru yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon”.
Pleidleisiodd y Senedd o blaid y cynnig i dderbyn yr argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig, gyda 40 Aelod yn pleidleisio o blaid a 14 yn pleidleisio yn erbyn. Yn y modd hwn, bodlonwyd y gofynion i sicrhau ‘uwchfwyafrif’ o ddwy ran o dair o’r Senedd i ganiatáu i Fil ar ddiwygio’r Senedd gael ei gyflwyno.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |